Cyfryngau Cymdeithasol

Templed o e-bost at AS, AC neu gyngor lleol

Isod ceir llythyr templed/e-bost i'w anfon at eich AS neu AC lleol yn gofyn iddynt bostio am eich grant ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Fe allech chi ofyn iddynt am ddyfyniad i'ch datganiad i'r wasg hefyd neu eu gwahodd i'ch digwyddiad agoriadol os ydych chi'n cael un. Dylai manylion cyswllt ar gyfer eich AS neu AC fod ar eu gwefan.

Annwyl XX

Rwy'n cysylltu â chi i rannu'r newyddion da bod £xx o ariannu'r Loteri Genedlaethol wedi'i ddyfarnu i nodwch fanylion y grant. Bydd yr ariannu yn golygu nodwch fanylion yr hyn y bydd yn galluogi i chi ei wneud. Byddwn yn hynod ddiolchgar pe bai modd i chi ein cynorthwyo ni i rannu'r newyddion da gyda'r gymuned leol trwy roi neges ar Twitter? Rwyf wedi cynnwys awgrym isod:
Newyddion gwych - mae arian y Loteri Genedlaethol wedi'i ddyfarnu i nodwch eich enw Twitter neu enw'ch sefydliad er mwyn nodwch fanylion.

Mae croeso i chi rannu'r newyddion ar unrhyw sianeli eraill. Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ein sefydliad a'r gwaith yr ydym yn ei wneud mae croeso i chi gysylltu unrhyw bryd.

Yn gywir
Teitl
Enw'r sefydliad

Dylech ddileu'r testun sydd mewn melyn a nodi'ch geiriau eich hun