
Llongyfarchiadau ar dderbyn arian y Loteri Genedlaethol!
Newid Byd
Rydych chi'n un o filoedd o achosion da dros y DU gyfan sy'n gwneud pethau rhyfeddol gyda help arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Mae'n bwysig iawn rhannu'r newyddion da eich bod chi wedi derbyn ariannu. Mae hyrwyddo'ch grant yn codi ymwybyddiaeth o'ch gwaith ac yn rhoi gwybod i'r cyhoedd sut y mae'r Loteri Genedlaethol o fudd i fywyd ar draws y DU.

Un o amodau'ch grant yw y byddwch chi'n cydnabod eich arian y Loteri Genedlaethol.
Dylech chi o leiaf:
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfryngau cymdeithasol
Cyhoeddi datganiad i'r wasg ynglŷn â'ch grant ac yn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol
Ychwanegu logo mewn man amlwg ar eich gwefan
