Cyfryngau Cymdeithasol

Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter ac Instagram yn ffyrdd gwych o gyhoeddi'r newyddion am eich grant.

Gofynnwn i chi gydnabod cefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bob amser trwy ddefnyddio'r hashnod #NationalLottery wrth bostio cynnwys yn ymwneud â'ch grant.

Gallwch weld postiadau a awgrymir yma.

Mae graffeg "Rydym wedi derbyn ein harian y Loteri Genedlaethol", animeiddiad a bwrdd "Diolch yn fawr" i'w lawrlwytho yma. Cofiwch barhau i gyfeirio at y Loteri Genedlaethol wrth bostio am eich grant, a defnyddio'r hashnod #FyLoteriGenedlaethol / #MyNationalLottery.

Am gyngor ar sefydlu sianeli cyfryngau cymdeithasol cliciwch yma.

Rydym wedi creu Twibbon i ychwanegu at eich proffil Twitter y gallwch ei lawrlwytho yma.

Ynghyd â phostio o'ch cyfrifon eich hun, ystyriwch ofyn i'ch AS a chyngor lleol bostio am eich grant. Yn aml mae llawer yn eu dilyn a byddant yn barod i rannu'ch newyddion da. Dyma dempled o e-bost y gallwch ei anfon i ofyn am eu cefnogaeth.