Cyfryngau

Awgrymiadau ar gyfer cysylltu â chyfryngau lleol

Mae derbyn ariannu'r Loteri Genedlaethol yn llwyddiant anferth ac yn newyddion gwych i'ch cymuned leol.

Bydd gan eich papurau newydd a gorsafoedd radio lleol ddiddordeb mewn clywed am eich newyddion. Efallai bod gennych berthynas da gyda'ch cyfryngau lleol yn barod neu efallai mai hyn fydd y tro cyntaf yr ydych chi erioed wedi cysylltu â hwy.

Rydym wedi amlinellu rhai awgrymiadau ar gyfer cysylltu â'r cyfryngau isod.

Adnabod pa gyfryngau i'w targedu

Efallai fod hyn i'w weld yn amlwg ond dim ond straeon sy'n disgyn o fewn yr union ardal y maen nhw'n ymdrin â hi y bydd papurau newydd a gorsafoedd radio lleol yn ymdrin â hwy. Y papurau newydd y dylech chi gysylltu â hwy yw'r rhai sydd ar gael i'w prynu neu sy'n cael eu dosbarthu am ddim yn yr ardal ble y mae'ch prosiect wedi'i lleol. Os nad ydych chi'n siŵr fe allwch chi ffonio i ofyn pa ardal y maen nhw'n ymdrin â hi. Gyda gorsafoedd radio meddyliwch am eich BBC lleol ynghyd ag unrhyw orsafoedd masnachol yn eich ardal.

Canfod y cyswllt gorau

Bydd gan y rhan fwyaf o bapurau newydd a gorsafoedd radio gyfeiriad e-bost ar gyfer y ddesg newyddion ar eu gwefan. Bydd y cyfeiriad hwn yn derbyn llawer o negeseuon e-bost felly mae'n werth ffonio'r ddesg newyddion i ddweud wrthynt am eich stori a gofyn a oes rhywun penodol y dylech chi anfon y neges atynt.

Drafftio'ch datganiad i'r wasg

Rydym wedi cynnwys templed y gallwch ei ddefnyddio i ddrafftio'ch datganiad i'r wasg. Wrth ei lanw meddyliwch am effaith y grant - esboniwch sut y bydd y grant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r bobl yr ydych chi'n gweithio â hwy? A yw'n golygu y byddwch chi'n gallu gweithio gyda mwy o bobl, neu'n agor i grwpiau newydd am y tro cyntaf? Sut y bydd yn gwella'u bywydau?

Anfon eich datganiad i'r wasg

Meddyliwch am eich llinell destun gan mai dyna fydd y peth cyntaf y bydd y newyddiadurwr yn ei weld, os nad yw'n dal eu llygaid efallai na fyddant yn agor y neges hyd yn oed. Mae'n syniad da cyfeirio at eich ardal leol yn y llinell destun er mwyn i'r newyddiadurwr weld ei fod yn berthnasol, er enghraifft ‘Clwb Chwaraeon Machynlleth yn Derbyn Arian y Loteri Genedlaethol’. Mae'n well copïo’r datganiad i'r wasg i gorff y neges e-bost yn hytrach na'i atodi ac os ydych chi'n ei anfon at nifer o gysylltiadau mewn gwahanol leoliadau defnyddiwch BCC nid CC. A pheidiwch ag anghofio cynnwys eich manylion cyswllt bob amser.

Atodi delwedd

Gall atodi llun o ansawdd uchel wella'ch cyfle o sicrhau cyhoeddusrwydd. Bydd lluniau a gymerir ar iPhones neu debyg yn iawn. Meddyliwch am yr hyn yr ydych chi eisiau i'r llun ddweud am eich prosiect – meddyliwch am y lleoliad a phwy yr ydych chi eisiau eu cynnwys yn y llun, fe allai hyn fod yn staff neu efallai rhai o'r bobl a fydd yn elwa o'r grant. Cofiwch nodi enwau bawb yn y llun gan nodi'n glir pwy yw pwy - fe fydd yn cael ei ddefnyddio fel pennawd.

Dilyn i fyny gyda galwad ffôn

Mae newyddiadurwr yn derbyn llawer o ddatganiadau i'r wasg bob dydd ac felly byddai'n ddefnyddiol i chi eu ffonio yn gyflym i dynnu sylw at eich newyddion. Os yw amser yn brin, dewiswch un neu'n ddau bapur newydd neu orsaf radio allweddol i wneud yn siŵr eu bod wedi derbyn eich datganiad i'r wasg.